Ein gweledigaeth yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yw darparu ysgol lle mae plant, rhieni, athrawon, llywodraethwyr a'r gymuned yn medru gweithio gyda'i gilydd i gynnig awyrgylch groesawgar, diogel, gofalus a gweithgar i bob unigolyn.
Gweledigaeth TGCh: "Yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân, mae sgiliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn rhan hanfodol o'n llwyddiant wrth i ni fyw, gweithio a chwarae yn yr unfed ganrif ar hugain. Ein nod yw sicrhau bod ein disgyblion yn gymwys yn y sgiliau sydd eu hangen yn y byd digidol rydym bellach yn byw ynddo ac i sicrhau bod pob disgybl yn llwyr ymwybodol o sut i gadw'n ddiogel ar lein."
Ceisiwn ddathlu ein llwyddiannau gyda'n gilydd fel cymuned ysgol gyda phob unigolyn yn werthfawr ac yn cael parch. Ceisiwn annog yn yr holl gymuned ysgol barch at ein hiaith a'n treftadaeth ein hunain yn ogystal ag ieithoedd a diwylliannau eraill.