Ein Hysgol
Agorwyd yr Ysgol Gynradd Gymraeg hon ym Medi 1991 er mwyn gwasanaethu dalgylch tref Cwmbrân a'r cyffiniau. Fe'i hagorwyd fel ysgol Babanod ac Iau ond ym Medi 1997 agorwyd dosbarth meithrin fel rhan o'r ysgol. Derbynnir disgyblion yn unol â'r Polisi Sirol, sef ar ddechrau'r mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn bedair oed neu ar ddechrau'r mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn dair oed i'r dosbath meithrin.
Yn y tymor cyn y dyddiad y mae'r plentyn i ddechrau fe gynigir y cyfle i bob rhiant ymweld â'r ysgol i gwrdd â'r staff ac i holi a thrafod materion allweddol. Fe fydd cyfle hefyd i'r plentyn dreulio cyfnod yn yr ysgol. Ar ddechrau'r tymor newydd fe fydd y plant yn cael pob cyfle posibl i ymgartrefu yn yr ysgol mewn grwpiau bach cyn i'r dosbarth llawn gofrestru gyda'i gilydd.
Mae'r ysgol hon yn ysgol Gymraeg ac addysgir plant rhwng 3 ac 11 oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Anogir plant i ddangos balchder yn eu gallu i siarad Cymraeg. Dysgir Saesneg fel pwnc craidd ychwanegol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Prif nod yr ysgol yw sicrhau y caiff pob disgybl y cyfle i ddatblygu hyd eithaf ei allu gan feithrin agweddau a rhannu profiadau fydd yn gosod sylfaen gadarn i'w fywyd fel oedolyn. Gwneir hyn drwy ennyn balchder yn ei Gymreictod a theyrngarwch tuag at gymuned ac etifeddiaeth.
Nod ac Amcanion
Yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân mae pob disgybl gyfwerth â'i gilydd ond derbyniwn hefyd bod plant yn wahanol i'w gilydd a chanddynt yr hawl i lwyddo mewn gwahanol ffyrdd. Parchwn bob disgybl o bob rhyw, lliw a chred a cheisiwn ddysgu'r plant i ddatblygu drwy barchu cred a diwylliant pobl eraill yn seiliedig ar eu parch tuag at y ddwy iaith a diwylliant sydd yn eu gwlad nhw'u hunain. Disgwyliwn i'r plant weithio'n galed, i fwynhau bywyd ysgol ac hefyd i gadw rheolau'r ysgol. Mewn geiriau eraill disgwyliwn iddynt weithio wrth eu tasgau a bod yn ddisgyblion mewn Ysgol Gynradd Gymraeg.
Ein bwriad yw eu datblygu yn blant sy'n medru gweithio'n annibynnol i ymchwilio'n dda ond i gydweithio â'i gilydd ac i barchu a gofalu am ei gilydd.