Newyddion
23rd April 2008
Y newyddion diweddaraf o Ysgol Gymraeg Cwmbran
Ar y 14eg o Fai cynhelir arddangosfa o waith celf y disgyblion yn neuadd yr ysgol. Mae’r plant yn brysur yn creu darnau celf gwefreiddiol ac rydym yn siwr y byddwch yn falch iawn pan welwch y lluniau wedi eu arddangos yn broffesiynol. Bydd cyfle i chi brynu y lluniau ar ddiwedd yr arddangosfa.
Bydd Miss Elin Davies (Athrawes y Dosbarth Derbyn) yn dechrau ei chyfnod mamolaeth ar y 5ed o Fai. Dymunwn y gorau iddi yn ystod y misoedd nesaf. Bydd Miss Manon Jones yn addysgu’r plant am weddill y tymor.
Llongyfarchiadau i Miss Catrin Devonald (Athrawes Blwyddyn 2 ac Arweinydd Meithrin a Derbyn). Mae Miss Devonald wedi cael ei phenodi fel athrawes mewn gofal mewn ysgol newydd yng Nghaerdydd. Mae Miss Devonald wedi bod yn athrawes yma ers 1997 a bydd yn golled mawr i’r ysgol pan ddaw yr adeg iddi adael ar ddiwedd Tymor yr Haf.
Diolch i bawb a gefnogodd ein Wythnos Bwyta’n Iach a Chadw’n Heini. Roedd yr wythnos yn llwyddiant mawr a diolch i griw ‘Skip Fit’ am ein helpu ni i gasglu £601 tuag at adnoddau ychwanegol i’r ysgol. Diolch hefyd i Miss Catrin Evans hefyd am drefnu’r holl wythnos.
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm cwis ‘Keep me safe’ am eu llwyddiant yn y cwis yn Neuadd y Sir. Da iawn chi!
Bydd yr ysgol ar gau ar gyfer hyfforddiant i’r staff ar y 25ain o Ebrill a’r 16eg o Fehefin.