Gwasanaeth Neges Ewyllys Da.
16th May 2008
Ymunom ni gyda'r Urdd a nifer fawr o ysgolion dros Gymru gyfan i ganu cân Ewyllys Da Caryl Parry Jones.
Rhwng hanner awr wedi deg ac unarddeg y bore 'ma, aeth Radio Cymru ymlaen yn y gwasanaeth a gwrandawom ar raglen Neges Ewyllys Da yr Urdd.
Y neges y flwyddyn hon oedd newid yn yr hinsawdd a chawsom wasanaeth gyda negeseuon mewn ieithoedd gwahanol megis Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.
Cafodd yr ysgol ei henwi ar raglen Hywel Gwynfryn a Nia Roberts a chawsom hwyl yn ymuno yn y canu a'r gwasanaeth.