Llwyddiant i Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
3rd October 2007
Enillodd tîm pêl droed blwyddyn 5 a 6 gêm cyntaf y flwyddyn yn erbyn Ysgol Gynradd Henllys.
Roedd bechgyn blwyddyn 5 a 6 yn hapus iawn gyda'u perfformiad cyntaf, yn erbyn Ysgol Gynradd Henllys. Yn ystod yr hanner cyntaf, sgoriodd Joseph Cox tair gôl wych a sgoriodd Ysgol Gynradd Henllys i wneud y sgôr yn 3-1 ar ddiwedd yr hanner cyntaf. Agorodd yr ail hanner gyda gôl wych gan Luke Howells a gôl gan Henllys yn dilyn. Ar ddiwedd y gem, daeth dwy gôl arbennig gan Lloyd Lewis i wneud y sgôr terfynol yn 6-2.