Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Ysgol Gymraeg Cwmbrân - 21st July 2007
Fe gymerodd y disgyblion ran mewn naw cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin. Fe enillon ni un gystadleuaeth!
Teithiodd y plant i'r Eisteddfod ar fws ac roedd eu hymddygiad yn ardderchog.
Yr oedd y disgyblion yn llwyddiannus iawn yn y cystadleuaeth Dawnsio Gwerin dan 12 mlwydd oed gan ennill y wobr gyntaf. Yr oedd yn gyrhaeddiad arbennig i'r disgyblion ac i ni fel ysgol.
Y mae'r staff wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd gyda'r disgyblion dros y misoedd diwethaf ac hoffwn ddiolch iddynt i gyd yn enwedig Miss Nerys Griffiths am yr holl ymarferion ar ol ysgol.