Ffair Nadolig yr ysgol.
3rd December 2007
Cynhelir y Ffair Nadolig ar ddydd Gwener, Rhagfyr 14eg am 3:30 yp yn yr ysgol.
Bydd nifer o stondinau gwahanol yn amrywio o stondinau gemau, crefftau, raffl ac wrth gwrs, bydd ymweliad gan Sion Corn!
Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniadau o lyfrau, fideos, gemau, gwisg ysgol, gwobrau i'r raffl ayyb.
Os ydych ar gael i gynnig help llaw ar y diwrnod, cysylltwch ag aelod o'r PTA cyn gynted ag y bo modd.
Bydd eich plentyn yn dod â bocs gwag adre gydag ef/hi a byddwn yn ddiolchgar iawn petaech chi'n llenwi'r bocs ag unrhyw eitemau bach hwyl - bydd y bocsys yn cael eu gwerthu am £1 yn y ffair.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.