Gala Nofio Cenedlaethol yr Urdd.
24th January 2008
Llongyfarchiadau mawr i bawb gymerodd rhan yng ngala nofio cenedlaethol yr Urdd ddydd Sadwrn diwethaf.
Aeth 6 disgybl o flynyddoedd 4, 5 a 6 i Abertawe yr wythnos diwethaf. Gwnaethant yn arbennig o dda i gyrraedd y rownd olaf a chawsant llawer o lwyddiant ar y diwrnod.
Llwyddodd Michael Lewis o flwyddyn 6 i ennill mewn dwy ras; y ras rydd a'r pili pala. Llongyfarchiadau mawr iddo fe ac i'r 5 arall oedd yn cynrychioli'r ysgol.
I weld y canlyniad a'r canlyniadau eraill, cliciwch ar y cyfeiriad isod.