Penwythnos Llangrannog:
11th September 2008
Mae penwythnos y 26ain yn nesau!
Ar Fedi'r 26ain, bydd 56 plentyn a 6 athro yn mynd ar y daith i Langrannog. Dylai'r holiaduron iechyd a'r rhestr o'r pethau fydd angen ar eich plentyn gyrraedd yr ysgol erbyn canol wythnos nesaf.
Cost y daith yw £90 am y penwythnos, sydd hefyd yn cynnwys tâl aelodaeth yr Urdd am eleni sef £6. Gofynwn yn garedig i chi dalu'r arian i gyd cyn i ni fynd.
Roedd taith Llangrannog llynedd yn llwyddiant fawr felly gobeithiwn am yr un peth eto eleni.