Penwythnos Llangrannog:
23rd September 2008
Byddwn yn gadael am Langrannog penwythnos hyn!
Bydd 58 o blant a 7 aelod o staff yn gadael yr ysgol i fynd i Langrannog am 1 o'r gloch ddydd Gwener.
Byddwn yno am y penwythnos cyfan a gobeithiwn adael yno tua 2 o'r gloch dydd Sul. Dylwn fod yn ôl yn yr ysgol erbyn 5. I'r rheiny sydd â phlant yn mynd ar y daith, mae rhif ffon ar y llythyr aeth adref heddiw felly croeso i chi ffonio'r rhif ar ôl 3 er mwyn darganfod pryd byddwn ni yn ôl yn yr ysgol.
Gall y plant fynd â £10 gyda nhw a gofynwn i'r arian fod mewn punnoedd er mwyn i'r arian gael ei ddosbarthu'n well. Dylai unrhyw foddion neu feddygyniaeth gael eu rhoi i Miss Passmore fore dydd Gwener.
Rhaid i bob tystysgrif iechyd fod yn ôl yn yr ysgol erbyn yfory a dylai gweddill yr arian fod yn yr ysgol erbyn dydd Gwener.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad ac edrychwn ymlaen am daith llwyddiannus arall gobeithio.