Pacio bagiau yn Wilkinsons, Cwmbrân.
26th November 2008
Mae côr yr ysgol yn teithio i Baris ym mis Mawrth er mwyn canu yn yr Wyl Gymreig yno.
Bydd 40 o blant o'r ysgol yn teithio i Baris ac rydyn ni'n brysur yn trio codi arian ar gyfer y daith.
Bob dydd Sadwrn yn arwain lan at y Nadolig, bydd 10 o blant o'r ysgol yn helpu pacio bagiau yn Wilkinsons, Cwmbrân.
Bydd y plant yno o 11 y bore tan 4 yh bob dydd Sadwrn ac roeddwn yn llwyddiannus iawn yno dydd Sadwrn dwethaf. Dewch i gefnogi os ydych chi yng Ngwmbrân yn gwneud eich siopa Nadolig!
Diolch yn fawr.