Llongyfarchiadau mawr i gôr yr ysgol!
7th January 2009
Rydym wedi clywed y newyddion gwych ein bod wedi mynd trwy i’r rownd cyn derfynol yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2009.
Dim ond 4 côr ieuenctid o Gymru sydd wedi mynd trwy i’r rownd nesaf felly rydym yn falch iawn o’n llwyddiant gan fod hyn yn brofiad anhygoel i blant y côr.
Mae’r gystadleuaeth o safon uchel iawn gyda’r côr yn cystadlu’n erbyn corau adnabyddus fel Côr Ysgol Glanaethwy (O Last Choir Standing!), Ysgol Gerdd Ceredigion a Chôr Ysgol Gyfun y Strade.
Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am y profiad hwn gan fod y plant yn mynd i gael eu ffilmio’n canu’n fyw a bydd y cwmni hefyd yn eu ffilmio yn yr ysgol ar gyfer ei ddangos ar y teledu.
Mae’r rownd nesaf yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, Chwefror 21ain am 2 o’r gloch. Bydd bws yn cael ei drefnu i’r plant o’r ysgol i Aberystwyth ac yn ôl. Byddwn yn ddiolchgar iawn i gael unrhyw gefnogaeth lan yn Aberystwyth gan fod y corau eraill yn cael llawer o gefnogaeth fel arfer. Er mwyn cael tocynnau am ddim, cysylltwch â chwmni RONDO ar 02920 223456.
Pob lwc i'r côr!