Llongyfarchiadau i'r côr.
24th February 2009
Llongyfarchiadau mawr i'r 49 disgybl aeth lan i Aberystwyth er mwyn cystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru dros y penwythnos.
Canodd y côr yn arbennig ar lwyfan theatr y celfyddydau yn Aber o flaen cynlulleifa lawn, yn cynnwys 140 o gefnogwyr o'r ysgol.
Roedd y côr yn cystadlu'n erbyn corau adnabyddus yng Nghymru a chafwyd canmoliaeth mawr gan y beirniaid answyddogol.
Llongyfarchiadau mawr i bawb a diolch am yr holl waith caled!
Gwrandewch ar y côr yn canu wrth glicio ar y linc isod: