Talebau TESCO:
24th February 2009
Unwaith eto, mae’n amser i ni ddechrau casglu talebau TESCO ar gyfer offer cyfrifiadurol a chwaraeon.
Bydd y talebau ar gael mewn siopau TESCO o ddydd Llun, yr 2il o Fawrth. Eto eleni, rydym yn casglu hen ffonau symudol a hen ‘cartridges’ inc a gallwn gyfnewid rhain am dalebau yn ogystal.
Casglon ni dros 14,000 o dalebau llynedd felly gobeithiwn gasglu yr un faint, os nad mwy, eleni. Mae pob taleb yn cyfrif felly diolch yn fawr am eich cefnogaeth unwaith eto. Gofynnwch i’ch teulu, ffrindiau a chymdogion am eu talebau hwy hefyd! Bydd angen i ni gasglu rhain yn yr ysgol erbyn y 14eg o Fehefin.