Pob lwc i ddwy sy'n ein gadael yr wythnos hon:
31st March 2009
Byddwn yn ffarwelio â dwy aelod o staff yr wythnos hon, Mrs Heddwen Cross a Mrs Angela Howard.
. Dymunwn y gorau i Mrs Heddwen Cross sydd wedi bod yn gweithio fel athrawes gyflenwi yn yr ysgol ers nifer o flynyddoedd. Mae Heddwen wedi dysgu ymhob dosbarth yn yr ysgol a diolchwn iddi am fod yn ffrind arbennig i ni.
Bydd Mrs Angela Howard (Gofalwraig) yn ymddeol yr wythnos hon. Mae Mrs Howard wedi gweithio yn yr ysgol am 28 mlynedd!
Diolchwn iddi am ei hymroddiad i’r ysgol a dymunwn y gorau iddi yn y dyfodol.
Mae Mr Terry Moore wedi cael ei apwyntio fel ein gofalwr newydd o’r 1af o Ebrill. Bydd Mrs Howard yn parhau i weithio
yn yr ysgol fel glanhawraig ac yn gwirfoddoli fel swyddog i fonito’r traffig yn y bore.
Mae Angie yn berson rhyfeddol ac mae ei phersonoliaeth unigryw yn gwneud i ni gyd wenu.
Mae ei natur gofalgar a chynnes yn ganolbwynt i deulu mawr Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Pob lwc a diolch yn fawr Heddwen ac Angie!!