Llwyddiant chwaraeon:
11th May 2009
Llongyfarchiadau i dîm pêl droed y merched aeth i gystadlu yn Aberystwyth ar y penwythnos a llongyfarchiadau i’r timoedd pêl droed a phêl rwyd aeth i Fryn Onnen ar ddydd Gwener.
Cystadlodd y merched yn erbyn timoedd o ysgolion ar draws Cymru ac enillon nhw sawl gem er mwyn cyrraedd y rownd cyn derfynol. Yn anffodus, collon nhw’r gem hwn ond mae Mr Jones a Mr Rock yn canmol y merched yn fawr.
Ar brynhawn dydd Gwener, aeth dau dîm pêl droed ac un tîm pêl rwyd i Fryn Onnen er mwyn chwarae gemau cyfeillagar yn erbyn yr ysgol.
Dyma’r canlyniadau:
Blwyddyn 6 pêl droed: Colli 5-1.
Blwyddyn 5 pêl dreod: Ennill 5-2.
Blwyddyn 5/6 pêl rwyd: Ennill 13-4.
Da iawn i bawb!