Clwb TGCh:
11th May 2009
Dechreuodd y clwb TGCH yn yr ystafell gyfrifiaduron heddiw.
Helpodd y Tim TGCH gyda’r clwb a bydd y clwb yn rhedeg bob amser cinio dydd Llun o 12:10 ymlaen. Mae croeso i bawb sydd ddim â mynediad i gyfrifiadur neu’r we adref. Diolch i bawb am eu help.
Yn ystod y mis diwethaf, daeth rhieni-cu a rhieni rhai o blant blynyddoedd 5 a 6 mewn i’r ysgol i gael gweithdy cyfrifiadurol. Dangsoddodd y plant wrth eu rhieni-cu sut i ddefnyddio’r cyfrifiaduron a sut i edrych am bethau gwahanol ar y we.
Gobeithiwn gynnal gweithdy tebyg cyn hir.