Llongyfarchiadau i'r ysgol!
6th July 2009
Mae'r ysgol wedi'i gwobrwyo â thri thystysgrif eleni:
Y cyntaf yw'r Marc Safon ar gyfer Addysg Gorfforol yn yr ysgol. Diolch yn fawr iawn i Mrs Sennitt a Miss Elin Davies am eu gwaith caled.
Yr ail yw gwobr ysgol iachus yn y cyfnod sylfaen gyda diolch i Miss Wena Williams.
Y trydydd yw'r Marc safon ar gyfer yr addysgu yn y cyfnod sylfaen (EEL - Effective Early Learning) a diolch, unwaith eto, i Mrs Sennitt am ei gwaith caled.
Diolch i bawb am eu holl waith.