Gwisg anffurfiol fory:
21st January 2010
Bydd yr arian sy’n cael ei godi ar ein diwrnod gwisg anffurfiol yfory nawr yn mynd tuag at apêl Haiti, yn lle yr Urdd, gan ein bod yn teimlo fod hwn yn achos arbennig iawn.
Diolch am eich cefnogaeth.
Apêl Haiti:
Gan Tomos Rodrigues a Megan Jones. (Blwyddyn 6):
Wythnos ddiwethaf, digwyddodd drychineb enfawr yn Haiti, sy’n wlad dlawd iawn. Roedd daeargryn enfawr, oedd yn mesur 7.0 ar y graddfa Richter, wedi digwydd yno. Mae pawb yn y wlad hon angen eich help. Digwyddodd y daeargryn yma yn y lle mwyaf archolladwy. Haiti yw un o’r gwledydd mwyaf tlawd yn y byd. Mae bywyd yn galed iawn yno.
Mae pawb yn Haiti angen eich help chi. Mae eu tai wedi mynd, does dim byd gyda nhw ac mae pawb angen cymorth. Mae plant ar ben eu hunain ar strydoedd heb deulu na ffrindiau neu bwyd a dŵr glan! Does neb gyda tai fan hyn ac mae pawb yn sal a does dim digon o help i gadw pawb yn fyw.
Credir bod dros 300,000 o bobl wedi marw yn y drychineb hon i gyd gan nad oes unrhyw un yn gwybod faint yn gwmws eto. Mae’r rhifau hyn yn erchyll ond does dim ffordd gall pawb helpu os does dim digon o arian i roi dwr glan iddyn nhw. Mae’r bobl sydd wedi byw yn gorfod cysgu ar y strydoedd heb fwyd na lloches i gysgu o dan. Mae’r bobl yma wedi brifo ac mae angen help pawb. Mae pawb yno yn gobeithio am ddŵr glan.
Mae plant wedi colli popeth yn y wlad hon. Mae miloedd o blant heb deulu a nawr ac maen nhw’n amddifad. Does dim teganau i’r plant a dim dillad felly mae angen help NAWR.
Os gwelwch yn dda, cyfrannwch at yr achos bwysig hon. Gall punt neu ddwy helpu pobl i gael hidlyddion am ddŵr glan a helpu pawb i gael gwely neu feddyg i helpu! Mae Haiti angen help! Eich help chi i fyw! Gwnewch wahaniaeth nawr.
Diolch yn fawr am eich cymorth a’ch cefnogaeth,
Tomos a Megan.
(Disgyblion blwyddyn 6)