Newyddion Tymor y Gwanwyn
22nd March 2010
Y newyddion diweddaraf o Ysgol Gymraeg Cwmbran!
Diolch yn fawr i Miss Hannah Phillips am drefnu y Ffair Scholastic yn yr ysgol unwaith eto. Gwnaethpwyd £440 o elw i’r ysgol a bydd yr arian yma’n cael ei wario ar lyfrau darllen newydd i’r Adran Iau.
Llongyfarchiadau mawr i’r plant a fu yn cystadlu yn yr Eisteddfod yr Urdd. Cawsom lwyddiant eto eleni a bydd Amy Taylor a Anisha Walker a’r Parti Deulais yn canu eto yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a fydd yn cael ei chynnal eleni yn Aberaeron ym mis Mehefin. Enillodd Liam Worrow o ddosbarth Miss Evans y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth.
Enillodd yr ysgol y darian yn yr Eisteddfod Cylch a’r gwpan am yr eitem gerddorol gorau yn yr Eisteddfod Ranbarthol. Diolch i’r athrawon am yr holl waith paratoi eto eleni.
Bydd mis Ebrill yn fis cyffrous yn yr ysgol. Ar y 19eg o Ebrill am wythnos bydd gweithwyr yn gweithio ar y safle yn datblygu iard y Cyfnod Sylfaen. Yn ystod yr wythnos yma bydd rhaid i bawb ddefnyddio’r mynedfa ar ochr yr adeilad yn hytrach na’r brif fynedfa a mynedfa’r Meithrin.
Bydd drws newydd hefyd yn cael ei osod yn y prif fynedfa.
Bydd y canlynol yn cael eu gosod ar y safle:
Dosbarth pren (awyr agored)
Canopi pren – Cysgodfa i’r rhieni (Tua allan i’r Meithrin)
Hwyl triongl coch a fydd yn cysgodi’r iard
Byrddau picnic
Petryal mawr lliwgar ‘Wetpour’gyda llwybr ffigwr wyth ac arwyddion traffig.
Llwybr Antur
Postyn saethu pêl fasged/pêl rwyd (Adran Iau).
Rydym wedi prynu sgrin LCD ar gyfer y brif fynedfa a fydd yn dangos gwybodaeth i ymwelwyr a rhieni. Bydd y disgyblion o bob dosbarth hefyd yn cynhyrchu ffilm a fydd yn cael ei gynhyrchu gyda chefnogaeth Tom Maloney o Ganolfan Fourteen Locks
Bydd disgyblion yn yr Adran Iau hefyd yn elwa o 12 gliniadur ychwanegol sydd wedi ei harchebu. Erbyn hyn mae’r ysgol yn ddiwifr ac mae 54 o liniaduron ar gael i’r disgyblion i’w defnyddio yn ogystal ac ystafell ar gyfer Technoleg Gwybodaeth.
Cofiwch am ein diwrnod ‘Oes Fictoria’ ar ddydd Llun yr 22ain o Fawrth pan fydd staff a disgyblion yr Adran Iau yn cael y profiad o fywyd ysgol yn yr Oes Fictoria.
Cofiwch hefyd am y Ffair Pasg yn y Dosbarth Meithrin ar y 25ain o Fawrth a’r dyddiad cau ar gyfer cystadleuaeth Adran Fabanod/Cyfnod Sylfaen er mwyn cynllunio hêt neu bonet ar gyfer y Pasg.
Cofiwch am y diwrnod cau/hyfforddiant ar y 26ain o Fawrth. Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl y gwyliau ar y 12fed o Ebrill.