Taith y côr i Cork, Iwerddon:
4th May 2010
Ar ddydd Mercher yr 28ain o Ebrill, aeth 21 disgybl o’r ysgol hon a 5 o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw i Iwerddon am bedair noson.
Roedd Côr Llanofer yn cymryd rhan yng Ngwyl Gorawl Rhyngwladol Cork ac yn cynrychioli Cymru wrth wneud hyn.
Perfformiodd y plant wyth gwaith yn ystod eu hymweliad ag Iwerddon; dwy waith yn Neuadd y ddinas o flaen y Maer, unwaith mewn llyfrgell, unwaith mewn gwesty pum seren, unwaith mewn canolfan ryngwladol, unwaith mewn Eglwys ac mewn dwy ysgol leol. Roedd pobl Cork yn groesawgar iawn ac wedi eu rhyfeddu gydag aeddfedrwydd a dawn y plant i ganu. Ymddangosodd y plant ddwy waith ar flaen y papur newydd cenedlaethol yn Iwerddon ac maen nhw’n ymddangos ar raglen am yr wyl yn Iwerddon yr wythnos hon.
Roedd y profiad yn un a fydd yn aros gyda’r plant am byth. Os ydych chi eisiau clywed y côr yn canu, gallwch eu clywed a darllen amdanynt wrth fynd ar y wefan isod.