Elusen draenogod:
11th May 2010
Daeth menyw o elusen leol mewn i siarad gyda phlant yr adran iau am ddraenogod yn yr ardal.
Siaradodd am ddraenogod a sut i edrych ar eu holau ôl nhw. Os gwelwch chi ddraenog yn eich cartref neu unrhyw le ar y ffordd sydd wedi brifo, gallech chi ffonio’r fenyw a bydd hi’n edrych ar ôl y draenogod tan eu bod nhw’n ddigon iach i fyw yn ôl yn y gwyllt.
Mae hi’n gwneud y gwaith yma yn wirfoddol ac mae hi’n gofyn i chi ddod â chyfraniad o fwyd cath i hi fwydo’r draenogod. Does dim rhaid i chi mynd a phrynu bwyd ond os oes bwyd gyda chi yn y tŷ, os gwelwch yn dda dewch a tin neu ddau i fewn, at Miss Passmore rhywbryd yr wythnos hon.
Diolch,
Jack Guy ac Ethan John.
(Disgyblion blwyddyn 6)