Cystadleuaeth creu arwydd:
6th January 2011
Mae’r ysgol yn mynd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘Create a sign’ ar gyfer ffordd Greenmeadow.
Rydyn ni eisiau arafu’r cerbydau ar y ffordd hon. Ar gyfer y gystadleuaeth, mae’n rhaid i’ch plentyn/plant greu arwydd ar bapur ‘A4 landscape’ i fynd o dan yr arwydd ‘Parth 20 mya’. Bydd eich plentyn yn derbyn gwobr gyffrous a bydd yr arwydd buddigol yn cael ei roi dan yr arwydd sy’n bodoli’n barod.
Er mwyn cystadlu, rhowch eich syniadau i Alicia a Vienna (disgyblion blwyddyn 6) erbyn ddydd Llun, y 10fed o Ionawr.
Diolch yn fawr,
Alicia a Vienna (disgyblion blwyddyn 6)