Trefniadau'r wythnos:
16th January 2011
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol yr wythnos hon:
Gwefan yr wythnos:
Edrychwch ar wefan yr wythnos drwy glicio ar y gwefannau isod:
Y Cyfnod Sylfaen: www.s4c.co.uk/darllendafi.
Cyfnod Allweddol 2: www.clician.org
Dydd Llun:
Clwb TGCh amser cinio.
Bydd gwersi 'Computer Explorers' yn dechrau wythnos nesaf.
Panto ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. (babanod)
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos (9:10 yb)
'Keep Me Safe' ar gyfer blwyddyn 4.
Clwb chwaraeon ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Chwaraeon y tymor hwn yw 'cadw'n heini'.
Bydd ymarfer pêl rwyd i'r tîm tan 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb cyfansoddi amser cinio.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Mr Tony Rosser o Fyddin yr Iachawdwriaeth, Cwmbrân yn siarad gyda phlant blwyddyn 6 am eu gwaith yn yr ardal leol.
Dydd Iau:
Ymarfer Côr Llanofer tan 5.
Dydd Gwener:
Clwb darllen ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 amser cinio.
Gem rygbi a phêl rwyd yn Ysgol Bryn Onnen yn y prynhawn. Bydd y plant yn ôl yn yr ysgol erbyn 3:30.
Diolch yn fawr.