Gem bêl rwyd a phêl droed:
23rd January 2011
Aeth rhai disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 i Ysgol Bryn Onnen ddydd Gwener er mwyn chware pêl droed a phêl rwyd.
Roedd y gemau’n llwyddiannus iawn gyda Bryn Onnen yn ennill y pêl droed o 4 gôl i 3 a’n tîm pêl rwyd yn ennill o 14 gôl i 7.
Llongyfarchiadau mawr i bawb gymerodd rhan. Edrychwn ymlaen at y gemau nesaf.
Dyma adroddiad am y gem bêl droed gan Ethan o flwyddyn 6:
Dydd Gwener, aethon ni, y tîm pel droed, lan i Ysgol Bryn Onnen i chwarae gem bêl-droed. Yn yr hanner gyntaf, roedden ni’n colli o 3 gôl i ddim ond, yn yr ail hanner, daethon ni yn ôl i 3-3. Yn ystod pum munud olaf y gem, sgorion nhw gôl arbennig a chwythodd y dyfarnwr y chwiban. Y sgôr derfynol oedd 4-3.
Da iawn i Ethan, Jake a Billy am sgorio gôl yr un.
Cafodd Jack dystysgrif am chwarae’n deg a chafodd Ethan dystysgrif am ymdrechu’n galed yn ystod y gem felly llongyfarchiadau i’r ddau ohonyn nhw.
Yn y gem bêl rwyd, cafodd Amy dystysgrif am ei hymdrech a chafodd Tomas y dystysgrif am chwarae'n deg felly da iawn i'r ddau ohonynt hefyd.