Diwrnod e-ddiogelwch, 2011:
7th February 2011
Yfory, byddwn yn dysgu mwy am e-ddiogelwch yn ystod y diwrnod arbennig.
Yn ystod y diwrnod, bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i flwyddyn 2 a phob dosbarth yng Nghyfnod Allweddol 2 er mwyn cyflwyno gweithdai ar faterion ym ymwneud ag e-ddiogelwch.
Mae disygblion blwyddyn 6 wedi bod yn brysur yn paratoi adnoddau megis cyflwyniadau, gemau, animeiddio a gwersi amrywiol er mwyn eu cyflwyno i'r dosbarthiadau eraill.
Bydd PC Thomas yn siarad gyda phlant Cyfnod Allweddol 2 yn y prynhawn ac yn cynnal gweithdy gyda blwyddyn 6 yn ogystal.
Cofiwch am y cyfarfod i rieni ar e-ddiogelwch. Bydd y cyfarfod yn digwydd ar nos Fercher gyda PC Thomas am 3:30.
Am fwy o wybodaeth ar e-ddiogelwch, cliciwch ar y wefan isod.
Diolch.