Trefniadau'r Wythnos:
27th February 2011
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol yr wythnos hon:
Bydd yr ysgol yn ail agor ddydd Llun, yr 28ain o Chwefror.
Pythefnos Masnach Deg:
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn dathlu 'Pythefnos Masnach Deg' yn yr ysgol. Am fwy o wybodaeth am fasnach deg, edrychwch ar y wefan isod.
Gwefan yr wythnos:
Edrychwch ar wefan yr wythnos drwy glicio ar y gwefannau isod:
Y Cyfnod Sylfaen: Gwefan Balamory.
Cyfnod Allweddol 2: Gemau iaith Ieithgi.
Dydd Llun:
Clwb TGCh amser cinio.
Gwersi 'Computer Explorers' ar gyfer blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Mawrth:
Dydd Gwyl Dewi.
(Gall y plant ddod i'r ysgol yn eu gwisgoedd traddodiadol)
Dim clwb chwaraeon.
Ymarfer ymgom tan 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb cyfansoddi amser cinio.
Dim Clwb yr Urdd.
Ymarfer 'dawnsio disgo' tan 4:30.
Dydd Iau:
Diwrnod y Llyfr 2011.
(Gall y plant ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel eu hoff gymeriadau o lyfr.)
Ymarfer cor tan 5.
Dydd Gwener:
Sioe Dewi Sant i ddisgyblion CA2 yn y bore.
Clwb darllen ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 amser cinio.
Diolch yn fawr.
Related Links
- Beth yw Masnach Deg? (www.fairtrade.org.uk)
- Gwefan CA2 (Ieithgi) (www.bbc.co.uk)
- Gwefan y Cyfnod Sylfaen (Balamory) (www.bbc.co.uk)