Ein Taith i Sain Ffagan:
28th February 2011
Dyma adroddiad am ein taith i Sain Ffagan gan Morgan a Scott (disgyblion blwyddyn 6)
Ar ddydd Mercher, yr 16eg o Chwefror, aethon ni gyda phlant blwyddyn 5 a 6 i Sain Ffagan i ymweld â’r pentref Celtaidd yno.
Yn y pentref, roedd Celt a dwedodd e wrthon ni am fywyd a digwyddiadau yn ystod cyfnod y Celtaidd. Cafon ni ein rhannu mewn i ddau grŵp sef bechgyn a merched.
Arhosodd un grŵp gyda’r Celt a dysgon nhw am yr arfwisg a bywyd y Celtiaid. Swydd y grŵp arall oedd creu wal mas o frigau a wedyn taflu peli o fwd arno fe.
Dysgon ni lawer am fywyd y Celtiaid yn ystod y dydd.