Dathlu Dydd Gwyl Dewi:
1st March 2011
Heddiw, rydym wedi bod yn brysur yn dathlu Dydd Gwyl Dewi yn yr ysgol.
Dyma lun o rai o'n disgyblion yn ystod ein gwasanaeth bore 'ma.
Rydym i gyd wedi bod yn brysur iawn yn dysgu am hanes ein nawddsant ni yn ystod ein gwersi. Bore 'ma, cawsom wasanaeth ysgol gyfan er mwyn dathlu y diwrnod arbennig hwn.
Canon ni nifer fawr o ganeuon yn ymwneud â Dewi Sant ac aeth aelodau o gôr yr ysgol i ganu yng nghanolfan siopa Cwmbrân.
Dydd Gwyl Dewi hapus i bawb!