Diwrnod y Llyfr:
3rd March 2011
Cawsom lawer iawn o hwyl heddiw yn dathlu diwrnod y llyfr.
Daeth y disgyblion i gyd i'r ysgol wedi gwisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr. Gwelon ni sawl cymeriad gwahanol megis Sali Mali, Cruella Deville, Jac y Jwc, Where's Wally a llawer mwy.
Cafodd bawb cyfle i ddarllen llyfrau gwahanol yn ystod y dydd a chafodd rai plant amser darllen gyda rhai o'n llywodraethwyr.
Aeth rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 i ddosbarthidau y Cyfnod Sylfaen i ddarllen gyda'r plant a chawsom wasnaeth ysgol gyfan er mwyn gwobrwyo'r rheiny oedd wedi gwneud ymdrech arbennig gyda'u gwisgoedd.
Ysgrifenom ni gerdd ysgol gyfan wedi'i selio ar y teitl 'Llyfrau' (Books) a darllenodd Miss Heledd Williams y gerdd i'r ysgol gyfan.
Derbyniodd bob plentyn docyn llyfr i'w wario ar lyfrau sydd wedi eu cyhoeddi yn arbennig ar gyfer diwrnod y llyfr.
Bydd lluniau'r diwrnod ar y wefan cyn hir.