Ein cywion bach:
3rd March 2011
Mae plant dosbarth Miss Morris wedi bod yn ffodus iawn eleni gan eu bod gyda naw o gywion bach yn eu dosbarth.
Wythnos diwethaf, daeth naw wy i'r ysgol mewn tanc arbennig. Mae'r wyau wedi eu cadw'n gynnes iawn ar dymheredd o 37 gradd C.
Yn ystod yr wythnos, mae plant blwyddyn 1 wedi bod yn gwylio'r cywion bach yn torri trwy'r wyau. Wedi hynny, maent wedi eu trosglwyddo i danc gwydr arbennig a byddant yn aros yno tan ddydd Gwener nesaf. Byddant yn mynd i fferm arbennig i fyw wedyn.
Dyma lun ohonynt.