Trefniadau Blwyddyn 6:
11th March 2011
Mae gan flwyddyn 6 wythnos brysur yr wythnos nesaf. Dyma rai o’r dyddiadau sydd eu hangen arnoch chi.
Dydd Llun: Crucial Crew:
Bydd y disgyblion yn mynd i’r digwyddiad hwn wedi’i drefnu gan Heddlu Gwent yng Nghwmbrân. Byddant yn cael cinio’n gynnar ac yn mynd ar y bws i Crucial Crew. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion.
Dydd Mawrth:
Bydd Plant y Cyngor yn mynd i’r Ganolfan Sifig i gwrdd a’r Maer.
(Bydd angen pecyn cinio arnynt.)
Dydd Gwener:Sioe ‘Wings to fly’:
Bydd y disgyblion yn mynd i weld sioe ‘Wings to fly’ sydd wedi’i threfnu gan Heddlu Gwent. Unwaith eto, bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion a byddant yn teithio ar fws i weld y sioe.