Trefniadau'r Wythnos:
21st May 2011
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol yn ystod yr wythnos:
Gwefan yr wythnos:
Edrychwch ar wefan yr wythnos drwy glicio ar y gwefannau isod:
Y Cyfnod Sylfaen: Gwefan 'Pentre Bach' Sali Mali.
Cyfnod Allweddol 2: Gwefan 'dinesydd da'.
Dydd Llun:
Clwb TGCh yn ystod amser cinio.
(12:30-1)
Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth 'Disgybl yr wythnos'.
Clwb chwaraeon ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
(Chwaraeon yr hanner tymor yw dawns)
Dydd Mercher:
Clwb cyfansoddi yn ystod amser cinio.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer i bawb sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod tan 5 o'r gloch.
Dydd Iau:
Gwasanaeth dosbarth Mr Passmore. (9:10yb)
Clwb TGCh ar ôl ysgol tan 5.
Dydd Gwener:
Clwb darllen ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Byddwn yn gorffen ar gyfer wythnos o wyliau'r hanner tymor heddiw.
Wythnos nesaf:
Bydd rhai disgyblion yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe ddydd Llun a dydd Mawrth. Pob lwc i bod un sy'n cymryd rhan.
Diolch yn fawr.