Streic N.U.T
22nd June 2011
Pwysig – Diwrnod Streic
Efallai eich bod yn gwybod bod Undeb Cenedlaethol Athrawon (N.U.T) wedi pleidleisio i gynnal streic ar gyfer Dydd Iau y 30ain o Fehefin. O ganlyniad fe fydd hyn yn cael effaith ar Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Yn dilyn rheoliadau streic a gofynion iechyd a diogelwch fe fydd rhaid danfon plant sydd yn y dosbarthiadau sydd wedi cau ar y diwrnod, adref.
Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu defnyddio aelodau eraill o staff yr ysgol i oruchwylio’r dosbarthiadau sydd wedi cau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn achosi.
Dyma restr o’r dosbarthiadau ddylai fod yn bresennol ar y dyddiad yma.
Dosbarthiadau Derbyn / Reception classes – Ar agor / Open
(Mrs Rh Sennitt and Miss K Thomas)
Year 1 – Ar agor/Open (Miss M Jones and Miss C Davies)
Year 1/2 and Year 2 – Ar agor/Open (Miss B Morris and Miss C Evans)
Year 3 – Ar agor/Open (Dosbarth Miss H Williams)
Year 5 – Ar agor/Open (Dosbarth Mr S Rock)
.....................................................................................................
Gweddill dosbarthiadau Adran Iau /Cyfnod Allweddol 2 – Ar gau
Meithrin / Nursery – Ar gau / Closed
Ni fydd y bysus, Clwb y Tri Arth, na’r cinio ysgol yn cael ei effeithio gan y streic
Diolch am eich cydweithrediad
Edward Wyn Jones