Diwrnod Coffa Gary Speed:
22nd March 2012
Roedd rhai o aelodau o'r tim pel-droed yn ddigon lwcus i fod yn rhan o ddiwrnod coffa Gary Speed yng Nghaerdydd.
Dyma adroddiad gan rai aelodau o'r tim:
Ar ddydd Mercher, y 29ain o Chwefror, aeth rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 i gymryd rhan mewn diwrnod coffa Gary Speed yn Ysgol Pwll Coch, Caerdydd.
Yn gyntaf, aeth y tîm i Ysgol Pwll Coch i gwrdd â disgyblion o’r ysgolion eraill. Cymysgwyd y disgyblion mewn i dimoedd gwahanol ac aethon nhw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yng nghanolfan ‘Gol’.
Ar ôl ychydig o gemau, aeth y disgyblion yn ôl i Ysgol Pwll Coch ar gyfer seremoni wobrwyo. Ar ôl te yn McDonalds, aeth y disgyblion i’r gem goffa yn Stadiwm Caerdydd i wylio Cymru’n chwarae’n erbyn Costa Rica.
Er bod y canlyniad yn siomedig, cafodd y disgyblion ddiwrnod gwych. Diolch yn fawr i Mr Passmore am drefnu’r diwrnod.