Wythnos Masnach Deg:
16th May 2012
Cawsom Wythnos Masnach Deg lwyddiannus iawn yn yr ysgol wythnos diwethaf.
Wythnos diwethaf, cafwyd nifer o weithgareddau masnach deg gwahanol yn yr ysgol.
Dysgodd y disgbylion am bwysigrwydd masnach deg a chafodd y disgyblion gyfle i goginio bwydydd gwahanol yn defnyddio cynnyrch masnach deg.
Ar ddiwedd yr wythnos, daeth y disgyblion i'r ysgol yn eu lliwiau masnach deg a thynnwyd llun o'r symbol masnach deg ar iard yr ysgol.
Diolch i Mr Passmore am drefnu'r wythnos.