Mabolgampau 2012:
10th July 2012
Yn anffodus mae’r rhagolygon tywydd yn dangos glaw ar gyfer bore dydd Mercher a bore dydd Iau.
Ni fydd yn bosibl i ni ddefnyddio’r gwair o flaen yr ysgol heddiw gan ei fod mor wlyb.
Os yw’r tywydd yn wlyb yfory fe wnawn ein gorau yfory a dydd Iau i sicrhau fod y plant yn cael blas o ddiwrnod Mabolgampau yn ystod y dydd drwy ddefnyddio’r iard a’r neuadd os oes rhaid. Yn anffodus ni fydd y rhieni yn gallu bod yn bresennol.
Bydd angen i’ch plentyn wisgo dillad addas (siorts, crys-t ac esgidiau ymarfer) yn lliw y llys.
Y Cyfnod Sylfaen/Babanod - Dydd Mercher (11-7-12)
Yr Adran Iau – Dydd Iau (12-7-12)
Edrychwch ar y wefan yn y bore am y newyddion diweddaraf
www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk