Trefniadau'r Wythnos:
10th September 2011
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth 'Disgybl yr Wythnos'
(Neuadd: 9:10 y bore)
Bob wythnos, rydym yn dathlu llwyddiannau ein disgyblion yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Dyma wasanaeth 'Disgybl yr Wythnos' cyntaf y flwyddyn.
Bydd clybiau ar ol ysgol yn dechrau wythnos nesaf. Bydd llythyr yn mynd adref yr wythnos hon gyda threfniadau'r clybiau ar gyfer yr hanner tymor.
Bydd Clwb Plant y Tri Arth ar agor fel arfer.
Dydd Mawrth:
Diwrnod Roald Dahl.
Heddiw yw'r diwrnod i ddathlu holl waith Roald Dahl. Cliciwch ar y linc isod er mwyn ymweld a gwefan swyddogol Roald Dahl.
Dydd Gwener:
Diwrnod Owain Glyndwr.
Heddiw yw'r diwrnod i ddathlu un o gewri Cymru, Owain Glyndwr.
Diolch.