Wythnos y Tuduriaid:
14th September 2011
Ein thema y tymor hwn yw’r Tuduriaid ac yn ystod yr wythnos Hydref 10 - 14, byddwn yn cynnal wythnos arbennig yn yr ysgol.
Dyma drefn yr wythnos:
Dydd Llun:
Edrych ar gartrefi’r cyfnod.
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn adeiladu tŷ gyda chwmni arbennig yn y neuadd.
Dydd Mawrth:
Blynyddoedd 3 a 4 i Lancaiach Fawr.
Dydd Mercher:
Blynyddoedd 5 a 6 i Lancaiach Fawr.
Dydd Iau:
Diwrnod Celf y Tuduriaid.
Dydd Gwener:
Diwrnod ym mywyd y Tuduriaid.
Gall y disgyblion a’r staff
wisgo fel Tuduriaid y diwrnod hwn.
Edrychwn ymlaen yn fawr at yr wythnos.