Nosweithiau Rhieni:
14th September 2011
Mae llythyron y nosweithiau rhieni wedi eu dosbarthu yr wythnos hon.
Cynhelir nosweithiau rhieni yn yr ysgol ar Nos Lun a nos Fawrth, y 26ain a'r 27ain o Fedi.
Bydd hwn yn gyfle i chi gwrdd ag athro / athrawes eich plentyn ac yn gyfle gwych i chi drafod unrhyw faterion gyda nhw.
Bydd hwn hefyd yn gyfle i drafod targedau a thrafod y gwahanol weithgareddau sy'n digwydd yn yr ysgol y tymor hwn.
Gobeithiwn yn fawr y gallwch chi fod yn bresennol ar y nosweithiau hyn a gofynnwn yn garedig i chi ddanfon y llythyron yn ôl at athro / athrawes eich plentyn cyn gynted ag y bo modd.
Bydd ffair lyfrau Scholastic a ffair lyfrau Cymraeg yn digwydd yn neuadd yr ysgol ar y nosweithiau hyn.
Diolch yn fawr.