Newyddion mis Medi:
15th September 2011
Dyma lythyr cynta'r flwyddyn:
Croeso yn ôl i bawb ar ôl y gwyliau hir. Mi fyddwch yn derbyn llythyr yr wythnos nesaf gyda rhai o ddyddiadau a digwyddiadau pwysig y tymor. Byddwn yn ychwanegu at y rhain yn ystod y tymor ac yn rhoi’r wybodaeth ar wefan yr ysgol yn wythnosol.
Croesawn Miss Elen Hughes i’n teulu mawr yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Bydd Elen yn dechrau ei gyrfa fel athrawes gyda ni ym Mlwyddyn 2.
Cynhelir Clwb Chwaraeon ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 o ddydd Mawrth yr 20fed o Fedi (tan 4.30pm).
Cynhelir gwasanaeth ‘Disgybl yr Wythnos’ ar fore Ddydd Mawrth am 9.10am.
Dyddiau cau ar gyfer hyfforddiant i’r staff y tymor yma – 30ain o Fedi.
Rydym yn bwriadu newid trefn y nosweithiau agored y flwyddyn yma.
Cynhelir Nosweithiau Agored ar y 26ain a’r 27ain o Fedi y flwyddyn yma. Bydd yn gyfle i chi gwrdd ag athro/athrawes newydd eich plentyn ar ddechrau’r flwyddyn. Bydd yn gyfle hefyd i chi drafod, i dderbyn gwybodaeth, i gynllunio a gosod targedau ar gyfer eich plentyn gyda’r athro/athrawes ar ddechrau’r flwyddyn addysgol. Byddwch yn derbyn slip yr wythnos nesaf gyda dyddiad ac amser eich apwyntiad. Fe fydd gyda chi ddeg munud i drafod, ac er mwyn tegwch i bawb ac er mwyn hwyluso rhediad y noson ceisiwch gadw at yr amseroedd hyn os gwelwch yn dda.
Bydd Ffair llyfrau Saesneg Scholastic yn y neuadd a Ffair Llyfrau Cymraeg yn y Neuadd yn ystod y ddwy noson.
Bydd Nosweithiau Agored ychwanegol yn cael eu cynnal ym mis Ionawr 2012, Diwrnod Agored ym mis Mawrth 2012 a Nosweithiau Agored i gloi'r flwyddyn ar ddiwedd yr Haf.
Diolch yn fawr,
Edward Wyn Jones
Headteacher