Newyddion gan GRhA yr ysgol:
3rd October 2011
Rydym yn ffodus iawn i gael Cymdeithas Rhieni ac Athrawon (CRhA) sydd wedi bod ac sydd yn rhan allweddol o gymuned yr ysgol am nifer o flynyddoedd.
Yn ei hamser, mae'r GRhA wedi codi miloedd o bunnoedd sydd wedi'i wario ar adnoddau ac offer i wella awyrgylch dysgu ein disgyblion ac ychwanegu ato.
Gyda eich cymorth chi, gallwn barhau i wneud hynny.
Rydym yn annog holl deuluoedd yr ysgol i ymuno gyda ni mewn gwahanol gyfarfodydd a gweithgareddau, dim ots faint o amser gall unrhyw un roi.
Rydym yn awyddus i ddarparu a meithrin cysylltiadau agos rhwng yr ysgol a'r cartref ac mae'r GRhA yn ffordd arbennig o ddod a staff, rhieni a ffrindiau at ei gilydd yn gymdeithasol i gefnogi'r ysgol, yn gweithio tuag at gôl cyffredin.
Llynedd, (2011/2011), gwariodd y CRhA:
£4500 ar offer TGCh.
£500 ar offerynnau cerddorol.
£1200 ar offer a gemau amser egwyl gwlyb i bob dosbarth.
Yn barod eleni, rydym wedi rhoi £800 tuag at brynu offer recordio i'r Cyfnod Sylfaen.
Rydym yn barod i dderbyn unrhyw syniadau sydd gyda chi i godi arian!