Cofiwch am 'Wythnos y Tuduriaid' yn yr ysgol:
6th October 2011
Wythnos nesa', byddwn yn cynnal wythnos o weithgareddau yn ymwneud a'n thema hanes, y Tuduriaid.
Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer y disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2. Byddwn yn dysgu am deulu'r Tuduriaid, am y tai, am ysgolion yn ystod y cyfnod ac am Harri'r VIII fel brenin.
Dyma drefn yr wythnos:
Dydd Llun:
Edrych ar gartrefi’r cyfnod.
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn adeiladu tŷ gyda chwmni arbennig yn y neuadd.
Gallwch chi fel rhieni a gwarchodwyr ddod i'r neuadd ar ddiwedd y dydd er mwyn gweld y cartref os hoffech.
Dydd Mawrth:
Blynyddoedd 3 a 4 i Lancaiach Fawr.
Dydd Mercher:
Blynyddoedd 5 a 6 i Lancaiach Fawr.
Dydd Iau:
Diwrnod Celf y Tuduriaid.
Dydd Gwener:
Diwrnod ym mywyd y Tuduriaid.
Gall y disgyblion a’r staff
wisgo fel Tuduriaid y diwrnod hwn.
Am syniadau ar beth i wisgo, edrychwch ar y wefan isod.
Edrychwn ymlaen yn fawr at yr wythnos.