Trefniadau'r Wythnos:
9th October 2011
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Wythnos y Tuduriaid:
Yn ystod yr wythnos, byddwn yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud gyda'r Tuduriaid.
Gwefannau'r Wythnos:
Cliciwch ar y gwefannau isod er mwyn eu gweld.
Cyfnod Sylfaen: Y Tuduriaid.
CA2: Gemau Mathemateg.
Dydd Llun:
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn adeiladu cartref y Tuduriaid yn ystod y dydd.
Gall rhieni / gwarchodwyr ddod i'r neuadd ar ddiwedd y dydd er mwyn gweld eu gwaith.
Clwb Ffitrwydd yn yr ysgol.
(3:30 - 5)
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth 'Disgybl yr Wythnos'.
9:10.
Bydd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn mynd i Lancaiach Fawr heddiw.
(Bydd angen pecyn cinio ar bob un ohonynt heddiw. Bydd angen iddynt wisgo eu gwisg ysgol hefyd)
Clwb pêl rwyd yn yr ysgol.
(3:30 - 4:30)
Clwb pêl droed yn y 'Football Factory.'
(4-5)
Dydd Mercher:
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Lancaiach Fawr heddiw.
(Bydd angen pecyn cinio ar bob un ohonynt heddiw. Bydd angen iddynt wisgo eu gwisg ysgol hefyd)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a 6 tan 4:30.
Gem bel-rwyd yn y Stadiwm.
(4-5. Llythyr i ddilyn)
Dydd Iau:
Diwrnod celf y Tuduriaid. (CA2)
Ymarfer Côr ar ôl ysgol tan 5.
Dydd Gwener:
Diwrnod y Tuduriaid.
(Gall disgyblion CA2 wisgo fel rhywun o gyfnod y Tuduriaid heddiw)
Clybiau Amser Cinio yr Wythnos:
Dydd Llun:
Clwb TGCh (12:30 - 1)
Dydd Mawrth:
Clwb LEGO (12:30 - 1)
Dydd Iau:
Clwb Recorders (12:30 - 1)
Dydd Gwener;
Clwb darllen (12:30 - 1)
Diolch.
Related Links
- Gwefan Cyfnod Allweddol 2: (www.woodlands-junior.kent.sch.uk)
- Gwefan y Cyfnod Sylfaen: (www.cynnal.co.uk)