Cystadleuaeth Llaw ysgrifen:
![Cystadleuaeth Llaw ysgrifen:](/images/articles/fullsize_914_1318938300.jpg)
18th October 2011
Llongyfarchiadau i'r tri disgybl ddaeth i'r brig yn ein cystadleuaeth.
I gyd-fynd gyda'n wythnos Tuduriaidd yn yr ysgol, cymerodd pob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 2 ran yn ein cystadleuaeth llaw ysgrifen ddydd Gwener.
Mr Jones oedd ein beirniad ac roedd yn canmol y tri ddaeth i'r brig yn fawr iawn.
Yr enillydd yn y diwedd oedd disgybl blwyddyn 4 felly da iawn iddo fe.