Gweithdy Gwyddoniaeth a LEGO:
![Gweithdy Gwyddoniaeth a LEGO:](/images/articles/fullsize_916_1319009032.jpg)
19th October 2011
Cafodd plant blwyddyn 2 lawer iawn o hwyl ddoe yn dysgu am wyddoniaeth trwy wneud gweithdy LEGO.
Roedd yn rhaid i'r plant ddylunio ac adeiladu strwythurau gwahanol. Defnyddion nhw gylchredau trydanol gwahanol i oleuo rhannau o'u hadeiladau.
Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn.