Gwasanaeth Bwyta'n Iach:
![Gwasanaeth Bwyta'n Iach:](/images/articles/fullsize_939_1320827955.jpg)
8th November 2011
Heddiw, cafodd aelodau Cyngor yr Ysgol gyfle i berfformio eu gwasanaeth bwyta'n iach i weddill yr ysgol.
Mae disgyblion y cyngor wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn cynllunio, ysgrifennu ac ymarfer y gwasanaeth.
Yn y gwasanaeth, rhoddwyd gwybodaeth am gadw'n heini a bwyta'n iachus i ddisgyblion yr ysgol. Roedd y disgyblion wedi trefnu cwis i weddill yr ysgol ar ddiwedd y gwasanaeth yn ogystal.
Da iawn i bob un.