Parti'r Urdd yn 90:
25th January 2012
Ar ddydd Gwener, y 27ain o Ionawr, byddwn yn dathlu pen-blwydd yr Urdd yn 90 oed.
Bydd parti yn yr ysgol i’r adran iau rhwng 2 a 3 o’r gloch. Gofynnwn i’ch plentyn ddod â £1.00 ar gyfer ein cyfraniad blynyddol tuag at Urdd Gobaith Cymru.
Gall eich plentyn ddod i’r ysgol mewn dillad ei hun (coch, gwyn neu gwyrdd) a gofynnwn hefyd i chi sicrhau fod gan eich plentyn esgidiau ymarfer corff ar y diwrnod, gan ein bod ni’n mynd i gymryd rhan mewn gemau ar yr iard.
Plant y côr: Rhaid i blant y côr ddod â gwisg ysgol hefyd gan eu bod yn canu yn yr Eglwys yn y bore.
Diolch yn fawr,
Miss Passmore a Miss Griffiths.