Blwyddyn Newydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
30th August 2012
Edrychwn ymlaen at ddechrau blwyddyn ysgol newydd yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Bydd yr ysgol ar gau i'r disgyblion ddydd Llun gan fod diwrnod o hyfforddiant ar gyfer staff.
Bydd yr ysgol ar agor i'r disgyblion unwaith eto ddydd Mawrth.
Bydd 'Clwb Plant y Tri Arth' ar agor fel arfer yr wythnos hon ond bydd clybiau ar ol ysgol eraill yn ail ddechrau mewn ychydig o wythnosau.
Bydd gwefan yr ysgol yn cael ei diweddaru'n wythnosol felly cofiwch gadw llygad ar y wefan am y newyddion diweddaraf.
Edrychwn ymlaen i'ch croesawi chi yn ol i'r ysgol ddydd Mawrth.