Wythnos Cymru Daclus:
13th September 2012
Wythnos nesaf, cynhelir 'Wythnos Cymru Daclus' ac fel ysgol, rydym yn bwriadu cymryd rhan yn yr wythnos hon.
Fel y noda ar wefan 'Wythnos Cymru Daclus';
Mae cwynion yn gyson yn y wasg ac ar y teledu am gyflwr ein strydoedd, ein traethau a’n hafonydd. Y gwir yw bod y gallu i ddatrys llawer o’r problemau yn ein dwylo ni. Rydyn ni’n byw mewn oes brysur ond mae gan y rhan fwyaf ohonom awr neu ddwy’n rhydd i helpu i wella golwg ein hardal.
Gwnewch gwahaniaeth eleni ac ymuwch â ni yn ystod Wythnos Cymru Daclus 2012. Wythnos o ymgyrchoedd glanhau sy'n cael ei chynnal rhwng 17-23 Medi 2012. Bydd cyfle i chi gymryd rhan ble bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru.
Bydd pob dosbarth yn ymweld â rhan wahanol o'r ardal leol ac yn mynd ati i datcluso'r rhan honno.
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau fod y slip caniatâd wedi ei ddanfon yn ol i'r ysgol erbyn dechrau'r wythnos. (Llythyr i ddilyn gan Miss Jones.)
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y linc isod.